Sidebilder
PDF
ePub
[graphic][merged small]

MADAWC uab maredud aoed idaw powys yny theruyneu. Sef yw hynny o porfoed hyt yggwauan yggwarthaf arwystli. Ac ynyr amser hwnnw brawt aoed idaw. nyt oed kyuurd gwr ac ef. Sef oed hwnnw Iorwerth uab maredud. A hwnnw agymerth goueileint mawr yndaw athristwch owelet

yr enryded ar medyant aoed y vrawt ac ynteu heb dim. Ac ymgeissaw aoruc aegedymdeithon ae

vrodoryon maeth. awnelei am hynny. ellwng rei onadunt y erchi gossymdeith idaw. Sef y kynnigywys madawc idaw y pennteuluaeth achystal ac idaw ehun. a meirch ac arueu. ac enryded. agwrthot hynny aoruc Iorwerth. Amynet arherw hyt ynlloeger. allad kalaned allosgi tei. adala karcharoryon aoruc Iorwerth. Achyghor agymerth madawe agwyr powys ygyt ac ef. Sef y kawssant yn eukyghor gossot kanwr ympop tri chymwt ympowys oe geissaw. a chystal ygwneynt rychtir powys. oaber ceirawe ymallictwn ver yuryt wilure ar efyrnwy. ar tri chymwt goreu oed ympowys. arny vydei da idaw ar teulu ympowys. ar ny bei da idaw yny rychtir hwnnw. a hyt ynnillystwn trefan yn rychtir hwnnw ydymrannassant y gwyr hynny. agwr aoed ar y keis hwnnw. sef oed y enw Ronabwy. ac y doeth ronabwy achynnwrie vrychgoch gwr o vawdwy. achadwgawn vras gwr o voelure ygkynlleith y ty heilyncoch uab kadwgawn uab idon yn ran. A phan doethant parth ar ty. Sef y gwelynt hen neuad purdu tal unyawn. a mwe o honei digawn y ueint. Aphan doethant y mywn y gwelynt lawr pyllawe anwastat. yny lle y bei vrynn arnaw. abreid yglynei dyn arnaw rac

Ac ymgyghor ac wynt beth

Sef agawssant yn eu kyghor.

llyfnet y llawr gan vissweil gwarthec ae trwnc. ynylle y bei bwll dros vynwgyl y troet ydaei ydyn gan gymysc dwfyr a thrwnc ygwarthec. agwrysc kelyn yn amyl ar y llawr. gwedy ryyssu or gwarthec eu bric. Aphan deuthant y kynted y ty y gwelynt. parthau llychlyt goletlwm. A gwrwrach yn ryuelu ar yneillparth. Aphan de elei annwyt arnei y byryei arffedeit or us ampenn y tan hyt nat oed hawd ydyn or byt diodef y mwc hwnnw yn mynet ymywn ydwy ffroen. ac ar y parth arall ygwelynt croen dinawet melyn ar y parth. A blaenbren oed gan un o nadunt agaffei vynet ar y croen hwnnw. Agwedy eu heisted gof aorugant yr wrach padu yd oed dynyon y ty. Ac ny dywedei y wrach wrthunt namyn gwrthgloched. Ac ar hynny nachaf y dynyon yndyuot. gwr coch gwaruoel gogrispin. abeich gwrysc ar y gefyn. agwreic veinlas vechan. Achesseilwrn genti hithev. aglasressawu awnaethant ar y gwyr. achynneu tan gwrysc udunt amynet y pobi aoruc y wreic. adwyn y bwyt udunt. bara heid a chaws aglastwfyr llefrith. Ac ar hynny nachaf dygyuor owynt a glaw hyt nat oed hawd y neb vynet yr agheuedyl. ac rac annesmwythdet gantunt eu kerdet dyffygyaw aorugant a mynet y gyscu. A phan edrychwyt y dyle nyt oed arnei namyn byrwellt dysdlyt chweinllyt. aboneu gwrysc yn amyl trwyd

A

aw. agwedy ryussu or dinewyt y meint gwellt aoed uch eu pennau ac is eutraet arnei. Breckan lwytkoch galetlom toll adannwyt arnei. A llenllicin vrastoll trychwauawc aruchaf y vreckan. gobennyd lletwac a thudet govudyr idaw ar warthaf y llenlliein. ac y gyscu y daethant. a chyscu a disgynnwys ardeu gedymdeith ronabwy yn trwm. gwedy y goualu orchwein ar annesmwythder. A ronabwy hyt na allei na chyscu na gorffowys. medylyaw aoruc bot yn llei boen idaw mynet ar groen ydinawet melyn yr parth y gyscu. Ac yno y kysgwys. Ac yngytneit ac y daeth hun yny lygeit y rodet drych idaw y vot ef ae gydymdeithon yn kerdet ar traws maes. argygroec ae o hen ae vryt adebygei y uot parth a ryt y groes ar hafren. Ac val ydoed yn kerdet y clywei twryf. achynhebrwyd yr twryf hwnnw nys ryglywssei eiryoet. Ac edrych aoruc drae gefn. Sef y gwelei gwraenc penngrych melyn. ae varyf yn newyd eillaw y ar varch melyn. Ac o penn ydwygoes athal ydeulin y waeret yn las. apheis o bali melyn am y marchawc. wedy rywniaw ac adaued glas. achledyf eurdwrn ar y glun. agwein o gordwal newyd idaw. Acharrei oledyr ewic. Agwaec erni o eur. Ac ar warthaf hynny llenn o bali melyn wedy rywniaw asidanglas. agodreon y llenn las ac aoed las o wise y marchawc ae uarch aoed kynlasset

a deil y ffenitwyd. Ac aoed velyn o honei aoed kynvelynet a blodeu y banadyl. arac druttet y gwelynt y marchawc. dala ofyn awnaethant adechreu ffo. Ac euhymlit aoruc ymarchawc. Aphan rynnei y march y anadl y wrthau y pellaei y gwyr y wrthaw. Aphan y tynnei attaw y nesseynt wynteu attaw hyt ymbron y march. Aphan y gordiwedawd erchi nawd aorugant idaw. Chwi ae keffwch ynllawen. Ac na vit ofyn arnawch. Ha vnbenn kan rodeist newd ymi. adywedy ymi pwy wyt heb y ronabwy. Nychelaf ragot vygkystlwn. Idawc uab mynyo. Ac nyt om henw ym clywir yn vwyaf. namyn om llysenw. adywedy di ynni pwy dy lyssenw. dywedaf. Idawc cord prydein ym gelwir. Ha vnbenn heb y ronabwy paystyr yth elwir ditheu velly. Mi aedywedaf itt yr ystyr. vn oedwn or kenadeu ygkatgamlan y rwng arthur amedrawt y nei. agwr ieuanc drythyll oedwn i yna. ac rac vychwannocket y vrwydyr ytvysgeis y rygtunt. Sef yryw teruysc aorugum pan ymgyrrei i. yr amherawdyr arthu y veneg y vedrawt y uot yndatmaeth ac yn ewythyr idaw. ac rac llad meibon teyrned ynys prydein ae gwyrda y erchi tagnefed. Aphan dywettei arthur yr ymadrawd teckaf wrthyf or aallei. y dywedwn ynneu yr ymadrawt hwnnw ynhactraf aallwn wrth vedrawt. Ac o hynny y gyrrwyt arnaf ynneu idawc

« ForrigeFortsett »