Sidebilder
PDF
ePub
[graphic][merged small]

Arthur adeuodes dala llys ygkaer llion arwysc. Ac y delis aruntu seith pasc. aphump nadolic. Arsulgwyn dreigylweith dala llys aoruc yno. Kanys hygyrchaf lle yny gyuoeth oed gaerllion y ar uor ac y ar dir. Adygyuor aoruc attaw naw brenhin coronawc. aoedynt wyr idaw hyt yno. ac ygyt a hynny Ieir abarwneit. Kanys gwahodwyr idaw uydei yrei hynny ym pob gwyl arbennic onybei uawr aghenyon yn eu lludyas. Aphan vei ef

ygkaer llion yn dala llys. teir eglwys ardec a achubit wrth yr offerenneu. Sef ual yd achubit. eglwys y arthur ae deyrned ae wahodwyr. Ar eil y Wenhwyuar. ae rianed. ar dryded auydei yr distein ar eircheit. ar bedwared. y franc ar swydogyon ereill, a naw eglwys ereill auydei yr naw pennteulu. Ac y Walchmei yn bennaf. Kanys ef o arderchocrwyd clot milwryaeth ac urdas boned oed bennaf ar ynaw pennteulu. ac nyt anghei yn vn or eglwysseu mwy noc adywedassam ni uchot. Glewlwyt gauaeluawr oed penn porthawr idaw. ac nyt ymyrrei ef yggwassanaeth. namyn yn vn orteir gwyl arbennic. namyn seithwyr a oedynt ydanaw yn gwassanaethu. arennynt y vlwydyn yryngtunt. Nyt amgen. grynn. aphen pighon. allaes gymyn. agogyfwlch. a gwrdnei lygeit cath. awelei hyt nos yngystal ac hyt dyd. Adrem uab dremhitit. Achlust uab clustueinyt aoedynt wylwyr y arthur. Aduw mawrth sulgwyn ual yd oed yr amherawdyr yny gyuedach yneisted. nachaf was gwineu hir yn dyuot ymywn. Apheis a swrcot o bali caerawc ymdanaw. achledyf eurdwrn am y vynwgyl. adwy esgit issel ogortwal am y draet. adyuot aoruc hyt rac bronn Arthur. Henpych gwell arglwyd heb ef. Duw arodho da it heb yr ynteu. agresso duw wrthyt. ac aoes chwedleu o newyd gennyt ti. Oes arglwyd heb yr ynteu. Nyt atwen i dydi heb yr

arthur. Ryued yw gennyfi nam atwaenost. afforestwr itti arglwyd wyfi ynforest ydena. amadawe yw vy enw i uab twrgadarn. Dywet ti dy chwedleu heb yr arthur. Dywedaf arglwyd heb ef. Karw aweleis yny forest. ac ny weleis yrmoet ygyfryw. Pabeth yssyd arnaw ef heb yr arthur. pryt na welut eiryoet y gyfryw. Purwyn arglwyd yw. ac ny cherda gyt ac un aniueil oryuic abalchder rac y urenhineidet. Ac y ouyn kyngor itti arglwyd ydodwyf. beth yw dy gynghor amdanaw. Iawnaf ygwnafi heb yr arthur. mynet y hela ef auory yn ieuenctit y dyd. Apheri rybud heno ar bawp or llettyeu. Ac arryfuerys oed bennkynyd y arthur. ac areliuri oed benn mackwy. ac ar bawb y am hynny. ac ar hynny y trigyassant. agellwng y mackwy orblaen aoruc. Ac yna y dywawt gwenhwyuar wrth arthur. arglwyd heb hi agennhedy di vyvi avory y uynet yedrych ac y warandaw ar hela ykarw adywawt y mackwy. Kanhadaf ynllawen heb yr arthur. Minneu aaf heb hi. Ac yna ydywawt gwalchmei wrth arthur. Arglwyd heb ynteu ponyt oed iawn ytitheu. kanhadu yr neb y delei hwnnw attaw yny helua. llad y benn ae rodi yr neb ymynhei ae yorderch idaw ehun ae y orderch ygedymdeith idaw. na marchawc naphedestyr ydel idaw. Kanhadaf

heb yr arthur. abit y keryd

Kanhadaf yn llawen

ar y distein ony byd

parawt pawp auory yuynet yhela. A threulaw y nos aorugant drwy gymedrolder ogerdeu adidanwch ac ymdidaneu adiwall wasanaeth. Aphan uu amser gan bawp onadunt vynet ygyscu wynt aaethant. Aphan doeth ydyd drannoeth deffroi aorugant. agalw aoruc arthur ar y gweisson agadwei ywely. Nyt amgen. pedwar mackwy. Sef rei oedynt. Cadyrnerth uab porthawr gandwy. Ac Ambreu uab bedwor. ac amhar uab arthur. agoreu uab Custenyn. ar gwyr hynny adoethant att arthur. ac agyuarchassant well idaw. ac awiscassant ymdanaw. A ryuedu aoruc Arthur na deffroes gwenhwyuar. ac nat ymdroes yny gwely. argwyr auynnyssynt y deffroi. Nadeffrowch hi heb yr arthur. kanys gwell genthi gyscu no mynet y edrych ar yr hela. Ac yna y kerdawd arthur racdaw. ac ef aglywei deu gorn yn canu. vn yn ymyl lletty y pennkynyd. ar llall yn ymyl lletty y penn mackwy allwyr dygyuor kwbyl or niueroed adoethant att arthur. a cherdet aorugant parth ar fforest. A gwedy mynet arthur odieithyr yllys ydeffroes gwenhwyuar agalw ar y morynyon aoruc agwiscaw ymdanei A uorynyon heb hi. mi agymereis gennat neithwyr y uynet yedrych ar yr hela. Ac aet un o honawch yr ystabyl apharet dyuod ac a uo ouarch or awedo y wraged eu marchogaeth. ac ef aaeth vn onadunt. ac ny chahat ynyr ystabyl

namyn deu uarch. Agwenhwyuar ac un or morynyon aaethant ar y deuuarch. ac wynt adoethant drwy wysc. allusc ygwyr ar meirch agynhalyssant. Ac ual y bydynt yn kerdet uelly wynt aglywynt twryf mawr angherdawl. ac edrych aorugant draekeuyn. ac wynt awelynt uarchawc ar ebawlvarch helydei athrugar yueint. amackwy gwyneu Ieuanc esgeirnoeth teyrneid arnaw. achledyf eurdwrn ar y glun. apheis aswrkot obali amdanaw. adwy eskit issel ogordwal am y draet. allenn oborffor glas ar warthaf hynny. ac aual eur wrth bop cwrr idi. acherdet yn uchelualch drybelit ffraeth gyssonuyr awnaei y march. ac ymordiwes agwennhwyuar aoruc achyuarch gwell idi aoruc. Duw arodho da itt ereint heb yr hitheu. Ami athadnabuum pann yth weleis gyntaf gynneu. agressaw Duw wrthyt. Aphaham nat aethost di gyt ath arglwyd yhela. Am na wybuum panaeth heb ef. Minneu aryuedeis heb hi gallu o honaw ef vynet yndirybud y mi. Ie arglwydes heb ef. Kyscu awneuthum i ual nawybuum pan aeth ef. agoreu vn kedymdeith genhyfi heb hi vygkedymdeithas arnaw yny kyvoeth oll wyt ti o was ieuanc. ac ef aallei uot yngyndigriuet ymi orhela ac udunt wynteu. kanys ni a glywn y kyrn pan ganer. Ac aglywn y cwn pann ellynger. aphan dechreuont alw. Ac wynt adoethant y ystlys y forest. ac yno seuyll a wnaethant. Ni

« ForrigeFortsett »